Ein Cynnig

Mae gwybodaeth fanwl ar gael yn y dogfennau cynllunio drafft sydd ar gael i’w gweld neu eu lawrlwytho ar ein tudalen Dogfennau a Lawrlwythiadau .

Ynglŷn â’r cynigion:

  • Siop fwyd Aldi newydd o faint cymedrol ag arwynebedd gwerthu o 1,315m2
  • Uned gyflogaeth 653m2 ar y safle, â chaniatâd amlinellol ar gyfer unedau pellach o tua 4,870m2, gan ganiatáu i fusnesau newydd neu rai presennol ehangu i ofod mwy yn Rhuthun
  • Mynediad oddi ar yr A525 (Lôn Gwernydd) trwy ffordd ystâd newydd i mewn i’r safle
  • Parcio am ddim i gwsmeriaid Aldi ar gyfer 135 o geir, gan gynnwys 8 o lle i bobl anabl a 9 lle i rieni a phlant
  • Mannau parcio pwrpasol ar gyfer beiciau
  • Tirlunio deniadol wedi’i ymgorffori o amgylch y safle er mwyn gwella ei apêl
  • Siop newydd mewn lleoliad ardderchog a fyddai’n lleihau’r angen i gwsmeriaid deithio ymhellach i ffwrdd, neu yrru i ganol y dref
  • Yn creu hyd at 40 o swyddi newydd yn y siop Aldi a fydd yn cael eu talu ar gyfradd sy’n arwain y diwydiant ac sy’n uwch na’r Cyflog Byw cenedlaethol
  • Yn creu oddeutu 18 o swyddi yn yr uned gyflogaeth gyntaf, ac oddeutu 120 o swyddi newydd yn y cyfnod cyflogaeth diweddarach
  • Cyfleoedd cyflogaeth ychwanegol yn ystod y gwaith adeiladu ac yn y gadwyn gyflenwi

Priffyrdd, mynediad a pharcio

Rydym yn bwriadu cael 135 o leoedd parcio, gan gynnwys 8 lle i bobl anabl a 9 lle i rieni a phlant ar gyfer y siop Aldi. Mae hyn yn cydymffurfio â pholisi Cyngor Sir Ddinbych yn ogystal â gofynion gweithredol Aldi.

Mae’r cynnig hefyd yn cynnwys darparu ffordd newydd i’r ystad ddiwydiannol drwy’r safle a fydd yn darparu cyfle ar gyfer datblygiad diwydiannol newydd yn Rhuthun.

Mae rhagor o wybodaeth fanwl ategol ac adroddiadau ymgynghorwyr ynghylch y trefniadau traffig, mynediad a pharcio wedi’u cynnwys yn y dogfennau sydd ar gael i’w gweld a’u lawrlwytho yma.

Dyluniad cyfoes

Ein cynnig yw darparu siop fwyd ddeniadol o ansawdd uchel ar gyfer cymuned Rhuthun.

Er mwyn sicrhau ymddangosiad ardderchog dros y tymor hir, mae Aldi yn defnyddio deunyddiau o ansawdd uchel y tu mewn a’r tu allan i’w adeiladau. Bydd y siop Aldi newydd yn defnyddio cyfuniad o gladin llwyd glo carreg ac arian metalig â phlinth gwaith briciau siarcol, sy’n cynrychioli rhinweddau’r ardal ddiwydiannol gerllaw i’r gogledd-orllewin o’r safle. Bydd ganddi elfennau mawr o wydr ar hyd y drychiad gogleddol a ffenestri rhuban lefel uchel i’r gweddlun gorllewinol, ynghyd â chanopi metal cywasgedig cyfoes.