Cysylltu
Rydym yn awyddus i glywed eich adborth ar ein cynigion ar gyfer siop fwyd gymunedol newydd a chynllun cyflogaeth yn Rhuthun. Bydd adborth a gyflwynir cyn Dydd Gwener 24 Mai 2019 yn cael ei adolygu gan dîm y prosiect a’i ystyried cyn cyflwyno’r cynlluniau terfynol i Gyngor Sir Ddinbych.
Bydd ein dulliau ymgynghori a derbyn adborth yn cael eu crynhoi yn yr Adroddiad Ymgynghori Cyn-ymgeisio (Adroddiad PAC), a gyflwynir fel rhan o’r cais cynllunio.
Gallwch gysylltu â ni a gadael eich adborth yn y ffyrdd dilynol:
Gwefan ein hymgynghoriad, trwy glicio ar y botwm Dweud eich barn.
Ffôn: 0800 298 7040
E-bost: feedback@consultation-online.co.uk
Arddangosfa Gyhoeddus
Bydd Aldi yn cynnal arddangosfa gyhoeddus i arddangos y cynigion:
Ar: Ddydd Mercher 15 Mai 2019
Rhwng: 3pm a 7pm
Yng: Nghanolfan Gymunedol Llanfwrog, Stryd Mwrog, Rhuthun, LL15 1LE
Bydd aelodau tîm y prosiect ar gael i drafod y cynigion yn fanylach ac i ateb cwestiynau a allai fod gennych. Byddwch hefyd yn gallu darparu adborth yn yr arddangosfa gyhoeddus.