Newyddion
Ymgynghoriad wedi’i gyhoeddi ar gyfer siop Aldi a chynllun cyflogaeth newydd yn Rhuthun
Mae Aldi, yr adwerthwr bwyd disgownt arobryn, yn paratoi cynlluniau i agor siop fwyd newydd o ansawdd uchel ac uned gyflogaeth ar dir oddi ar yr A525 (Lon Gwernydd), Rhuthun.
Fel rhan o’i ymrwymiad i ymgynghori â’r gymuned, mae Aldi yn croesawu’r gymuned leol i arddangosfa gyhoeddus i arddangos ei gweledigaeth ar gyfer y safle:
Ar ddydd Mercher 15 Mai 2019
Rhwng: 3pm a 7pm
Yng Nghanolfan Gymunedol Llanfwrog, Stryd Mwrog, Rhuthun, LL15 1LE
Bydd y cynigion yn gweld y safle, gerllaw’r Farchnad Da Byw, yn cael ei drawsnewid yn siop fwyd ddeniadol, fodern, â 138 o fannau parcio ceir gan gynnwys parcio penodedig ar gyfer pobl anabl a rhieni a phlant. Bydd y cynllun hefyd yn darparu ffordd newydd i mewn i’r safle ac uned gyflogaeth o oddeutu 650m2 , a gyflenwir ar y cyd â Liberty Properties. Bydd yn rhan o ‘gais hybrid’ a fydd hefyd yn ceisio caniatâd amlinellol ar gyfer unedau cyflogaeth pellach ar y safle, gan hwyluso buddsoddiad pellach yn yr ardal a dod â dros 150 o swyddi newydd i Ruthun.
Meddai llefarydd ar ran Aldi:
“Rydym wrth ein bodd i gyhoeddi ein cynlluniau i agor siop fwyd Aldi newydd yn Rhuthun. Fe wyddom fod llawer o’n cwsmeriaid yn teithio allan o’r dref i brynu ein cynnyrch, ac yn gobeithio y bydd siop newydd yn y lleoliad hwn yn gwella dewis lleol ac yn lleihau amseroedd teithio.
“Rydym am glywed gan bobl leol cyn i ni gyflwyno cais cynllunio ym mis Mehefin 2019, ac yn annog preswylwyr i gwrdd â ni ar 15 Mai yn yr arddangosfa gyhoeddus i gael gwybod rhagor.”
Os bydd y cais yn derbyn caniatâd cynllunio, byddai’r cynnig yn creu hyd at 40 o swyddi newydd yn y siop Aldi yn unig, a fydd yn cael ei dalu ar gyfradd uwch nag arfer yn y diwydiant o £9.10 yr awr fel lleiafswm. Byddai cyfleoedd cyflogaeth pellach hefyd drwy’r unedau cyflogaeth arfaethedig, yn ogystal ag yn ystod y gwaith adeiladu a thrwy’r gadwyn gyflenwi.
Mae gwybodaeth fanwl ynghylch y cynigion, a’r ffyrdd y gall trigolion ddarparu eu hadborth ar gael ar wefan y prosiect: aldi-ruthin.consultationonline.co.uk/, neu drwy gysylltu â thîm y prosiect ar rif y llinell wybodaeth Rhadffôn ar 0800 298 7040, neu e-bostio feedback@consultation-online.co.uk.