Ynglŷn ag Aldi

Aldi yw un o gwmnïau preifat mwyaf y byd â mwy na 7,000 o siopau ledled Ewrop, Gogledd America ac Awstralia. Fe agorodd Aldi ei siopau cyntaf yn y DU ym 1990 ac erbyn hyn mae ganddo dros 800 o siopau ledled y wlad.

Mae Aldi yn canolbwyntio ar ansawdd yn hytrach na maint, gan stocio amrywiaeth o fwydydd sy’n cynnwys llawer o’r eitemau bwyd wythnosol sydd eu hangen ar siopwyr. Mae hyn yn caniatáu i Aldi gael y prisiau isaf gan gyflenwyr ac yna trosglwyddo’r arbedion i gwsmeriaid.

Mae’r ymrwymiad hwn i ansawdd wedi arwain at gael Aldi yn derbyn llu o wobrau gan y diwydiant a chwsmeriaid, gan gynnwys cael ei enwi’n hoff archfarchnad Prydain yn yr Arolwg Boddhad Cwsmeriaid Which? yn 2018 y pleidleisiwyd amdano gan siopwyr y DU.