Croeso

Cynigion ar gyfer siop fwyd a chynllun cyflogaeth newydd i Aldi yn Rhuthun

Mae Aldi, yr adwerthwr bwyd disgownt arobryn, yn paratoi cynlluniau i agor siop fwyd newydd o safon uchel ac uned gyflogaeth ar dir oddi ar yr A525 (Lon Gwernydd) yn Rhuthun.

Byddai’r cynllun yn darparu siop fwyd Aldi ddeniadol, fodern mewn lleoliad cyfleus a hygyrch i’r gogledd o ganol tref Rhuthun, gan drawsnewid y safle datblygu dynodedig hwn. Bydd y cynllun hefyd yn darparu ffordd fynediad newydd, uned gyflogaeth newydd 653m2 a chaniatâd amlinellol am 4,870m2 o unedau eraill.

Yn gyffredinol, bydd y cynigion yn rhan o “gais hybrid” a fydd yn gweld Aldi yn ceisio caniatâd cynllunio llawn ar gyfer y siop fwyd, un uned gyflogaeth a ffordd fynediad i’r ystâd, yn ogystal â chaniatâd cynllunio amlinellol i weddill y safle gael ei ddatblygu’n unedau cyflogaeth pellach. Byddai cynnig manwl ar gyfer yr unedau cyflogaeth ychwanegol hyn yn cael ei gyflwyno fel cais “Materion a Gadwir yn Ôl” yn ddiweddarach.

Fel rhan o’r broses ymgynghori statudol, sbardunodd Aldi y cyfnod ymgynghori cyn ymgeisio o 28 diwrnod ar Dydd Gwener 26 Ebrill 2019 ar gyfer y safle hwn.

Gallwch ddarllen gwybodaeth fanwl ynghylch y cynigion yn ogystal â’r dogfennau cynllunio drafft yn yr adran Dogfennau a Lawrlwythiadau.

Bydd Aldi yn cyflwyno’r cais cynllunio i Gyngor Sir Ddinbych ym mis Mehefin 2019. Edrychwn ymlaen at glywed eich syniadau a’ch adborth ar ein cynigion.

Arddangosfa Gyhoeddus

Byddwn yn cynnal arddangosfa gyhoeddus i arddangos y cynlluniau a chymryd adborth gan y gymuned leol. Byddem wrth ein bodd pe gallech fynychu:

Ar: Ddydd Mercher 15fed Mai 2019

Rhwng: 3pm a 7pm

Yng: Nghanolfan Gymunedol Llanfwrog, Stryd Mwrog, Rhuthun, LL15 1LE

Bydd aelodau tîm y prosiect ar gael i drafod y cynigion yn fanylach ac i ateb cwestiynau a allai fod gennych. Byddwch hefyd yn gallu darparu adborth yn yr arddangosfa gyhoeddus.

Rydym yn awyddus i glywed eich adborth ar ein cynigion ar gyfer siop fwyd gymunedol newydd yn Rhuthun. Manyliir ar ffyrdd y gallwch ddarparu eich adborth ar ein tudalen Gysylltu , neu gallwch ddarparu adborth ar-lein drwy’r dudalen Dweud eich Dweud .